1.1 Mae Prifysgol De Cymru (yn cynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Cyf.) wedi ymrwymo i brif-ffrydio cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl weithgareddau, yn ogystal â chyflawni’r dyletswyddau cyffredinol a phenodol a osodir arno drwy ddeddfwriaeth berthnasol.
1.2 Mae’r datganiad polisi hwn yn cydnabod pwysigrwydd strwythur cyflogau sydd yn gyfartal i bawb, yn briodol, yn dryloyw, yn darparu gwerth am arian ac yn gwobrwyo staff yn deg am y gwaith a wneir ganddynt. Mae’r datganiad polisi hwn yn gosod allan ymagwedd PDC at gyflogau a’r berthynas rhwng cydnabyddiaeth ariannol i uwch reolwyr ac i gyflogeion eraill. Y mae wedi’i lunio’n unol â’r egwyddorion a amlinellir yn nogfen Llywodraeth Cymru, “Tryloywder cydnabyddiaeth ariannol uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru”, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2015.
2.1 Wrth benderfynu ar gyflogau a chydnabyddiaeth ariannol ei holl gyflogeion, bydd PDC yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol. Mae hyn yn cynnwys:
• Deddf Cydraddoldeb 2010;
• Rheoliadau Cyflogaeth Ran-amser (Atal Triniaeth Lai Ffafriol) 2000;
• Rheoliadau Gweithwyr Asiantaeth 2010;
• Lle y bo’n berthnasol, Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth)
2.2. Er nad yw wedi’i rhwymo mewn cyfraith, mae PDC wedi dewis bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol. Yn unol â hynny, bydd yn dilyn egwyddorion a gofynion yr ymrwymiad hwn sy’n gweithredu trothwy isaf uwch na’r Cyflog Byw Cenedlaethol.
3.1 Mae Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Gwerthoedd yn adolygu cydnabyddiaeth ariannol yr Is-Ganghellor ac yn gwneud argymhellion i Fwrdd y Llywodraethwyr.
3.2 Mae’r Pwyllgor yn sicrhau bod unrhyw argymhellion yn deg ac yn ystyried budd, cynaliadwyedd ac enw da’r sefydliad yn ogystal â budd cyhoeddus a diogelu arian cyhoeddus fel rhan o’i ystyriaethau. Mae’n defnyddio gwybodaeth gymharol o Brifysgolion Eraill i gyfarwyddo ei benderfyniadau.
3.3 Mae’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol yn gwneud argymhellion i’r Bwrdd ar daliadau diswyddo i’r Is-Ganghellor; y Pwyllgor Diwylliant, Pobl a Gwerthoedd yn gwneud argymhellion i’r Bwrdd ynghylch taliadau diswyddo i staff uwch eraill.
3.4 Y Pwyllgor Diwylliant, Pobl a Gwerthoedd yn adolygu cydnabyddiaeth ariannol deiliaid swyddi uwch, ar wahân i’r Is-Ganghellor, gan gynnwys:
• Dirprwy Is-Ganghellorion
• Deoniaid a Chyfarwyddwyr
• Ysgrifennydd y Brifysgol a Chlerc Bwrdd y Llywodraethwyr
• Prifathro (CBCDC)
• Prifathro (Coleg Merthyr Tudful)
3.5 Mae’r Pwyllgor yn sicrhau bod unrhyw argymhellion yn deg ac mae’n ystyried budd, cynaliadwyedd ac enw da’r sefydliad yn ogystal â budd cyhoeddus a diogelu arian cyhoeddus fel rhan o’i ystyriaethau. Pan fydd ar gael, mae’n defnyddio gwybodaeth gymharol o Brifysgolion eraill i gyfarwyddo ei benderfyniadau.
3.6 I bob aelod arall o staff, mae’r Brifysgol yn defnyddio dull systematig o benderfynu ar werth swyddi yn unol â’i strwythur cyflogau, gan ddefnyddio system o’r enw ‘HERA’ (HE Role Analysis). Caiff y system hon ei defnyddio’n helaeth ar draws y sector AU.
4.1 Ym mis Mai 2004, bu i Gymdeithas Cyflogwyr Prifysgolion a Cholegau (UCEA), a’r holl undebau llafur a gydnabyddir gan y sector AU, negodi Cytundeb Fframwaith Cenedlaethol i ddiwygio strwythurau cyflogau, graddau a rhai telerau ac amodau ar draws y sector. Gweithredwyd hyn drwy gytundeb lleol rhwng y Brifysgol a’r undebau llafur perthnasol yn 2008, sy’n parhau yn ei le heddiw. Mae’r Cytundeb Fframwaith Cenedlaethol yn berthnasol i’r Brifysgol ac i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
4.2 Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Cyf. yn cyflogi rhai staff ar delerau ac amodau gwahanol i’r rhai y cyfeirir atynt ym mharagraff 4.1 uchod, am eu bod wedi’u diogelu gan Reoliadau TUPE.
5.1 Mae gan Brifysgol De Cymru berthynas gref â chydweithwyr yn yr Undebau Llafur ac mae’n gweithio’n agos â hwy ar faterion ar wahân i gyflogau. At ddibenion cydfargeinio ynghylch telerau ac amodau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr PDC a CBCDC, caiff yr undebau llafur canlynol eu cydnabod drwy gytundebau lleol:
Sefydliad | Undebau Llafur Cydnabyddedig |
---|---|
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Cyf. | Undeb Prifysgolion a Cholegau ac Unsain |
Prifysgol De Cymru | Undeb Prifysgolion a Cholegau, Unsain a GMB |
5.2 Mae dyfarniadau cyflogau ar gyfer yr adolygiad blynyddol o’r golofn gyflog (cyflogau hyd at pwynt talu 51) yn cael eu negodi ar lefel genedlaethol dan arweiniad UCEA (Cymdeithas Cyflogwyr Prifysgolion a Cholegau) ar ran yr aelod brifysgolion ar gyfer Prifysgol De Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Cyf.
5.3 Mae’r Brifysgol yn penderfynu’n flynyddol a fydd yn cymryd rhan yn y trafodaethau cenedlaethol. Mae gweithdrefn wedi’u chytuno ar gyfer negodi cyflogau, sy’n cynnwys tri chyfarfod rhwng UCEA a’r Undebau Llafur cynrychiadol. Cynhelir y cyfarfodydd hyn ym mis Mawrth i fis Mai bob blwyddyn ac mae’r adolygiad blynyddol yn weithredol o 1af Awst.
5.4 Y dull a fabwysiadwyd dros flynyddoedd lawer yw bod yr un cynnydd mewn cyflog a gytunwyd yn genedlaethol yn cael ei gymhwyso i’r holl swyddi uwch sydd y tu hwnt i’r golofn gyflog genedlaethol.
6.1 Yn ogystal â threfniadau bargeinio cyflogau, mae’r Brifysgol a’r Coleg yn mabwysiadu’r egwyddorion canlynol ar gyflogau:
6.2 Fforddiadwyedd a gwerth am arian – Un egwyddor yw parhau’n effeithlon, effeithiol ac ariannol sefydlog. Wrth roi ystyriaeth i b’un ai i gytuno i ddyfarniad cyflog cenedlaethol, mae ystyriaethau’r Bwrdd yn cynnwys fforddiadwyedd a gwerth am arian.
6.3 Cyflog Cyfartal – Mae’r Brifysgol a’r Coleg wedi ymrwymo i sicrhau nad oes gwahaniaethu o ran cyflogau yn eu strwythurau cyflogau. Cwblhaodd y Brifysgol a CBCDC eu Harchwiliad Cyflog Cyfartal diweddaraf ym mis Mai 2020. Cynhaliwyd yr Archwiliad gan gyd-weithgor Undebau Llafur / rheolwyr yn unol â Chanllawiau Adolygiadau Cyflog Cyfartal JNCHES Newydd. Roedd yr Archwiliad yn cymharu cyflogau’r grwpiau nodweddion gwarchodedig (oedran, anabledd, hil, rhyw) i sicrhau y caiff cyflog cyfartal ei roi am waith cyfartal. Cafodd canfyddiadau'r Archwiliad a'r argymhellion eu hadrodd i'r Pwyllgor Cyflogau Staff Uwch ym mis Medi 2020 ac wedi hyn i Fwrdd Llywodraethwyr y Brifysgol.
6.4 Didwylledd a Thryloywder – Mae’r Brifysgol yn cyhoeddi ei Hadolygiadau Ariannol ac Adolygiad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31ain Gorffennaf, bob blwyddyn. https://thehub.southwales.ac.uk/Interact/Pages/Content/Document.aspx?id=11871 Mae hyn yn cynnwys cyflog yr Is-Ganghellor ac unrhyw uwch reolwyr sy’n cael eu talu mwy na £100,000 y flwyddyn.
6.5 Ffocws ar fynd i’r afael â chyflogau isel a chefnogi’r Cyflog Byw – Mae’r Brifysgol a’r Coleg wedi ymrwymo i egwyddorion cyflog cyfartal am waith o werth cyfartal ac yn gweithredu cynllun gweithredu swyddi i fesur gwerth cymharol yr holl swyddi yn y strwythur cyflogau a graddio oddi mewn i fframwaith cyffredinol sy’n gyson, tryloyw a theg. Mae’r Coleg a’r Brifysgol yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig.
7.1 Mae strwythur cyflogau perthnasol y Brifysgol i’w gweld yn Atodiad 1. I staff cymwys, caiff dilyniant cynyddrannol oddi mewn i radd ddynodedig y swydd ei weithredu’n flynyddol ar 1af Awst oni bai y bu’r cyflogai ar y pwynt cynyddrannol am lai na chwe mis cyflawn ar y dyddiad hwn (lle bydd y dilyniant yn cychwyn y flwyddyn ganlynol).
7.2 Gallai dilyniant cynyddrannol gael ei ddal yn ôl pe caiff ei nodi a’i gadarnhau bod perfformiad yn anfoddhaol; neu pe caiff y cyfnod prawf ei ymestyn.
8.1 Yn ychwanegol at gyflog cyflogai, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth gynhwysfawr o fuddion ariannol ac anariannol yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
• Caiff yr holl gyflogeion PDC a CBCDC eu hymgofrestru’n awtomatig ar y Cynllun Pensiwn Athrawon. Mae gan weithwyr gwasanaethau proffesiynol presennol Prifysgol De Cymru a CBCDC fynediad at y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Er bod y cynlluniau hyn bellach yn cael eu gweithredu o da fethodoleg Cyfartaledd Gyrfa, yn hytrach na Chyflog Terfynol, maent yn dal i ddenu cyfraniad ffafriol iawn gan y cyflogwr.
• Ar hyn o bryd, mae’r Brifysgol yn gweithredu trefniadau aberthu cyflog mewn perthynas â gofal plant a chynllun Beicio i’r Gwaith ac yn cynnig hawl i wyliau blynyddol ac amser hyblyg hael.
• Mae nifer o hyrwyddiadau a gostyngiadau ar gael i’r holl staff, er enghraifft: gostyngiad ar aelodaeth mewn nifer o gampfeydd a gostyngiadau mewn llawer o siopau.
9.1 Mae’r cyflogau isaf ym Mhrifysgol De Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn gysylltiedig â Gradd A, Pwynt Colofn Gyflog 3. Fodd bynnag, gan fod y Brifysgol yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig, telir cyflogeion ar gyfradd fesul awr eu pwynt ar y golofn gyflog barhaol neu gyfradd y Cyflog Byw, pa un bynnag sydd fwyaf. Yr aelod o staff sy’n derbyn y cyflog uchaf yw’r Is-Ganghellor. Ceir manylion cymharu cyflogau yn Atodiad 2.
10.1 Mae'r Cynllun Pobl yn gynllun galluogi sy'n cyd-fynd â Strategaeth PDC 2030 ac mae'n nodi'r nodau a'r uchelgeisiau o ran rheoli talent.
11.1 Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi ar wefan PDC. Caiff ei adolygu a’i ddiweddaru’n flynyddol gan y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol neu pan fydd newidiadau uniongyrchol yn digwydd.
Cymarebau Cyflogau (31 Gorffennaf 2021) | Cymhareb ym Mhrifysgol De Cymru | Cymhareb yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru | |
---|---|---|---|
Cymhareb Isel i Uchel | Y gymhareb rhwng cyflog blynyddol y cyflogai sy’n derbyn y cyflog isaf* a’r sawl sy’n derbyn y cyflog uchaf | 1 i 9.81 | 1 i 8.76 |
Cymhareb Canolrif i Uchel | Y gymhareb rhwng cyflog canolrif y Brifysgol a’r cyflogai sy’n derbyn y cyflog uchaf | 1 i 5.24 | 1 i 4.6 |
*Gan ddefnyddio cyfradd y Cyflog Byw Gwirioneddol ar y dyddiad perthnasol.
D.S. Mae’r cymarebau a gyhoeddwyd yn y Datganiadau Ariannol ar gyfer Grŵp PDC ac felly’n amrywio o'r cymarebau a gyhoeddwyd uchod, sydd ar gyfer dau aelod cyfansoddol o Grŵp PDC.
Ysgrifennwyd | Awdur | Adolygir | |
---|---|---|---|
09/04/15 | Tracy Owen | Mai 2018 | |